Abstract
Mae’r astudiaeth beilot hon yn archwilio dylanwad Her Minecraft Education ar hyder ac ymgysylltiad disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o safbwynt staff.
Mae’r canfyddiadau ansoddol gan aelodau staff (n=11) mewn ysgol gymunedol ADY yn y Gogledd yn dangos bod yr Her wedi cyfrannu at ddatblygu hyder ac ymgysylltiad â’r Her, ac wedi annog creadigrwydd, cyfathrebu a chydweithio rhwng disgyblion sydd ag ADY hefyd.
Dangosodd y canfyddiadau hefyd fod ymgysylltiad disgyblion â’r Her wedi cynyddu trwy’r ffactorau canlynol: hyder wrth gyfathrebu; tyfu o ran hyder; hyder wrth gydweithio; cymryd rhan wrth gael hwyl; ac ymgysylltu â phob Maes Dysgu a Phrofiad yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Canfyddiad nodedig arall oedd bod cyfranogwyr wedi ennill sgiliau digidol newydd gan y disgyblion, a oedd yn cael ei ystyried yn fath o rymuso i’r disgyblion. Ar ben hynny, roedd aelodau staff yn gweld y gellid defnyddio Minecraft Education i fynd i’r afael â llu o feysydd yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Nid oedd y cyfranogwyr yn gweld yr Her fel rhwystr i ddisgyblion ag ADY, ond yn hytrach fel modd o wella eu hymgysylltiad a’u hyder wrth ddysgu, a thrwy hynny greu tegwch i ddisgyblion ag ADY.
Yn olaf, mae angen rhagor o ymchwil ar gymhwyso dysgu seiliedig ar gemau i ddisgyblion ag ADY, gan fod y data presennol yn gyfyngedig yng Nghymru.
Keywords: Anghenion Dysgu Ychwanegol, ADY, Minecraft Education, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
How to Cite:
McDermott, L. E., (2026) “Safbwyntiau Staff ar Ddylanwad Her Minecraft Education ar Ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol”, Ffocws ar Ymarfer (Cylchgrawn Addysg Cymru), doi: https://doi.org/10.16922/ffocws17
Downloads:
Download PDF
View PDF
48 Views
5 Downloads