Skip to main content
Research Articles (Welsh)

Gwersi a ddysgwyd: Ymatebion i COVID-19 gan y Sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru rhwng 2020 a 2023

Authors

Abstract

Pwrpas yr astudiaeth hon oedd deall sut mae ymarferwyr addysg a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru yn gweld effaith y pandemig COVID-19 ar eu sector; sut mae’r canfyddiadau hyn wedi newid dros amser; a’r hyn y gallwn ei ddysgu o’r profiadau hyn i gefnogi’r broses o adfer o argyfwng yn y dyfodol, ac ymarfer effeithiol ac ymatebol i’r cyd-destun mewn lleoliadau Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC). Defnyddiwyd proses ymchwil tri cham, yn cynnwys dau arolwg ar-lein (Tachwedd–Rhagfyr 2020, n=379; Chwefror–Mawrth 2023 n=352) a grwpiau ffocws ar-lein (Mai 2023, n=12). Yn gyffredinol, roedd ymarferwyr yn 2023 o’r farn bod effaith y pandemig yn waeth na’r rhai a gwblhaodd yr arolwg yn ystod anterth y pandemig yn 2020. Esboniwyd hyn gan yr effaith negyddol ar wasanaethau cymorth cydlynol yn dilyn y pandemig. Dywedodd traean a mwy o’r cyfranogwyr yn y ddau arolwg fod eu lleoliad wedi cael trafferth aros yn hyfyw, tra bod cyfranogwyr y grwpiau ffocws yn sôn am ‘sector a anghofiwyd’ ac yn teimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi yn eu rolau. Trafododd ymarferwyr newidiadau a oedd wedi parhau a addaswyd o ganlyniad i COVID-19, a oedd yn cael eu hystyried fel cyfleoedd a heriau yn deillio o brofiad y pandemig. Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf ag addasu’r lleoliad i’r lefel uwch o angen yr oedd plant yn y lleoliad yn ei ddangos. Mae’r papur yn cloi drwy ddarparu argymhellion ar gyfer polisi ac ymarfer ac yn pwysleisio’r angen i ddefnyddio pandemig COVID-19 fel cyfle dysgu ar gyfer myfyrio ac arloesi ym meysydd polisi ac ymarfer ECEC yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Keywords: COVID-19, y blynyddoedd cynnar, addysg a gofal plentyndod cynnar, arferion gorau, Cymru

How to Cite:

Knight, C., Tyrie, J., Bakopoulou, I. & Borras Batalla, M., (2025) “Gwersi a ddysgwyd: Ymatebion i COVID-19 gan y Sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru rhwng 2020 a 2023”, Wales Journal of Education 27(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.27.2.4cym

40 Views

6 Downloads

Published on
2025-11-21

Peer Reviewed