Abstract
Diben y papur hwn yw cyflwyno gwaith ymchwil ar effaith y pandemig COVID-19 ar Ddysgwyr Agored i Niwed mewn awdurdod lleol yn ne Cymru. Edrychodd yr astudiaeth ar natur newidiol proffiliau myfyrwyr agored i niwed a sut y mae eu hymgysylltiad wedi esblygu yn sgil y pandemig. Mae hyn wedi cynnwys asesu natur y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr agored i niwed a’r mathau o ddarpariaeth sydd ar gael. Gan ddefnyddio dyluniad ymchwil astudiaeth achos, defnyddiwyd dau gam i gasglu data. Yng ngham un, cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig unigol ar-lein gyda’r rheini sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr agored i niwed (n=10). Yng ngham dau, cynhaliwyd grwpiau ffocws wyneb yn wyneb gyda dysgwyr o gyfnod allweddol 3, cyfnod allweddol 4 ac Addysg Bellach (n=4). Mae’r canfyddiadau’n trafod natur a phroffil newidiol dysgwyr agored i niwed; amrywiaeth y ddarpariaeth i’r dysgwyr hyn; yn ogystal â safbwyntiau dysgwyr (yr elfen bwysicaf oll, o bosibl). Mae’r ymchwil hon o ddefnydd i lunwyr polisi, athrawon, darparwyr addysg amgen a phob rhanddeiliad sydd â diddordeb mewn dysgwyr agored i niwed.
Keywords: Dysgwyr Agored i Niwed, Cwricwlwm Amgen, COVID-19
How to Cite:
McInch, A. & Egan, D., (2025) “Y ddarpariaeth i ddysgwyr agored i niwed a’u hymgysylltiad mewn byd ôl-bandemig: tystiolaeth ragarweiniol gan awdurdod lleol yng Nghymru”, Wales Journal of Education 27(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.27.2.5cym
Downloads:
Download PDF
View PDF
39 Views
3 Downloads
Published on
2025-11-21
Peer Reviewed