Skip to main content
Research Articles (Welsh)

Defnyddio dull adeiladu rhuglder i gynyddu gwybodaeth a rhuglder arwyddo gydag athrawon cyn ysgol: Astudiaeth beilot

Authors

Abstract

Gwyddys fod arwyddo allweddeiriau, strategaeth gyfathrebu atgyfnerthol, yn hyrwyddo caffael iaith ymysg plant ifanc, ond mae staff mewn lleoliadau addysgol yn aml yn derbyn hyfforddiant annigonol, gan arwain at gyfraddau cofio a defnyddio isel. Mae’r astudiaeth beilot hon yn archwilio dichonoldeb ac effaith ymyriad sy’n seiliedig ar Addysgu Manwl a gynlluniwyd i wella hyfedredd a rhuglder athrawon cyn ysgol wrth arwyddo Makaton. Bu 11 o athrawon o ddarpariaeth cyn ysgol brif ffrwd yng Ngogledd Cymru, heb fawr ddim hyfforddiant blaenorol, yn cymryd rhan mewn ymyriad chwe wythnos yn cynnwys hyfforddiant rhuglder gyda 238 o arwyddion Makaton. Roedd asesiadau cyn ac ar ôl yr ymyriad yn mesur y wybodaeth a gaffaelwyd, a phrofion ôl-ymyriad yn gwerthuso rhuglder trwy gofio, dygnwch a chymhwyso. Dangosodd y canlyniadau welliannau sylweddol yn hyfedredd arwyddo’r cyfranogwyr, gyda lefelau uchel o gofio a chymhwyso sgiliau hyd yn oed ar ôl cyfnodau heb ymarfer. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gall Addysgu Manwl gynnig dull effeithiol ac amser-effeithlon o wella rhuglder iaith arwyddion mewn lleoliadau addysgol. Trafodir goblygiadau ar gyfer hyfforddiant athrawon a chyfeiriad ymchwil yn y dyfodol.

Keywords: Caffael iaith, Strategaeth gyfathrebu atgyfnerthol, Hyfforddiant arwyddo, Hyfforddiant athrawon, Addysgu Manwl, Rhuglder ymddygiadol

How to Cite:

Tan, A. J., Tang, B. W., Atherton, G., Cross, L. & Williams, B. M., (2025) “Defnyddio dull adeiladu rhuglder i gynyddu gwybodaeth a rhuglder arwyddo gydag athrawon cyn ysgol: Astudiaeth beilot”, Wales Journal of Education 27(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.27.2.3cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

43 Views

2 Downloads

Published on
2025-11-21

Peer Reviewed