Skip to main content
Research Articles (Welsh)

Cyfranogiad Rhieni Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Broses Gwahardd o Ysgolion yng Nghymru

Author
  • Cyfranogiad Rhieni Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Broses Gwahardd o Ysgolion yng Nghymru

    Research Articles (Welsh)

    Cyfranogiad Rhieni Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Broses Gwahardd o Ysgolion yng Nghymru

    Author

Abstract

Roedd yr astudiaeth hon yn archwilio profiadau rhieni o’u plentyn yn cael ei wahardd o’r ysgol. Cwblhawyd cyfweliadau lled-strwythuredig gyda rhieni deg plentyn a oedd wedi’u gwahardd o’r ysgol; roedd gan bob plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Roedd y cyfweliadau yn archwilio profiadau rhieni o gymryd rhan yn addysg eu plant cyn iddynt gael eu gwahardd o’r ysgol a’u profiadau o gymryd rhan yn y broses wahardd. Dadansoddwyd data gan ddefnyddio olwyn cyfranogiad Davidson (1998), sy’n categoreiddio cyfranogiad fel Hysbysu, Ymgynghori, Cyfranogi a Grymuso. Dangosodd y canfyddiadau fod cyfranogiad y mwyafrif o rieni wedi’i gategoreiddio fel Hysbysu, gyda staff yr ysgol yn hysbysu rhieni am ymddygiad negyddol a sancsiynau, yn hytrach na’u galluogi i gymryd rhan mewn cyfarfodydd i roi awgrymiadau ar y ffordd orau o weithio gyda’u plentyn. Roedd cyfranogwyr a oedd yn cydnabod bod ganddynt wybodaeth a phrofiad o’r system addysg yn gweld y broses gwahardd o’r ysgol yn weithdrefnol ac yn heriol; gwnaethant fynegi pryder dros rieni heb eu gwybodaeth a’u profiad. Daethpwyd i’r casgliad y byddai olwyn cyfranogiad Davidson (1998) yn ddefnyddiol ym mholisi gwahardd ysgolion i ddisgrifio sut y dylid cynnwys rhieni mewn gwahanol gamau o’r broses.

Keywords: Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), Cyflwr Sbectrwm Awtistig (ASC), Gwahardd, Rhieni, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

How to Cite:

Bridgeman, J., (2025) “Cyfranogiad Rhieni Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Broses Gwahardd o Ysgolion yng Nghymru”, Wales Journal of Education 27(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.27.2.2cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

36 Views

4 Downloads

Published on
2025-11-21

Peer Reviewed