Abstract
Mae’r astudiaeth hon yn gwerthuso effaith rhaglen hyfforddiant gwydnwch fel rhan o Dystysgrif Addysg i Raddedigion (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol). Nod y gwaith ymchwil yw mynd i’r afael â chyfraddau cadw isel yn y rhaglen academaidd a rolau addysgu dilynol. Mae llenyddiaeth yn amlygu’r rhwystrau sy’n wynebu athrawon dan hyfforddiant ac addysgwyr sy’n ymarfer, gan gynnwys straen, llwyth gwaith cynyddol, mesurau perfformiadolaeth, a chymorth annigonol (Ofsted, 2019; CGA, 2020; Yr Adran Addysg, 2018). Mabwysiadwyd dull gweithredu cymysg a phragmatig, gan ddefnyddio dyluniad cydgyfeiriol i werthuso effaith ymyrraeth gwydnwch ar sail themâu sydd wedi deillio o hyfforddiant gwydnwch mewn sectorau eraill. Roedd yr ymyriadau yn cynnwys holiadur dygnwch Duckworth (2016), cylchoedd deialog hermeniwtaidd, a chadw dyddiadur myfyriol. Er bod canfyddiadau’r gwaith ymchwil hwn yn awgrymu bod gan yr holiadur dygnwch gyfyngiadau fel adnodd diagnostig, roedd yr hyfforddiant gwydnwch wedi arwain at fanteision yn cynnwys gwella hunanymwybyddiaeth, myfyrdod beirniadol, a gwerth mannau diogel cydweithredol. Fodd bynnag, mae trosglwyddo’r sgiliau hyn i ymarfer proffesiynol yn parhau i fod yn heriol oherwydd pwysau systemig yn y gweithle (Jennings et al., 2017; Shaw et al., 2016). Mae’r astudiaeth yn dod i’r casgliad bod hyfforddiant gwydnwch yn fanteisiol ond bod angen iddo gael ei gefnogi gan strwythurau sefydliadol er mwyn iddo barhau ar ôl i fyfyrwyr gymhwyso (Reivich et al., 2011; Precious a Lindsay, 2019).
Keywords: gwydnwch, addysg athrawon, cadw, addysg ôl-orfodol, dygnwch, ymarfer myfyriol, dulliau cymysg, model gwerthuso kirkpatrick
How to Cite:
Ayres, J., (2025) “Hyfforddiant Gwydnwch i gefnogi athrawondan hyfforddiant yn ystod eu rhaglenaddysg gychwynnol i athrawon”, Ffocws ar Ymarfer (Cylchgrawn Addysg Cymru) doi: https://doi.org/10.16922/ffocws15
Downloads:
Download PDF
View PDF
37 Views
2 Downloads