Skip to main content
Research Articles (Welsh)

Mae Ieithoedd yn ein Cysylltu: Ymchwiliad i Safbwyntiau Dysgwyr ar Ieithoedd Rhyngwladol mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru

Authors: Elin Arfon (Cardiff University) , Claire Gorrara orcid logo , Lucy Jenkins (Cardiff University) , Glesni Owen (Cardiff University)

  • Mae Ieithoedd yn ein Cysylltu: Ymchwiliad i Safbwyntiau Dysgwyr ar Ieithoedd Rhyngwladol mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru

    Research Articles (Welsh)

    Mae Ieithoedd yn ein Cysylltu: Ymchwiliad i Safbwyntiau Dysgwyr ar Ieithoedd Rhyngwladol mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru

    Authors: , , ,

Abstract

Bu gostyngiad mawr yn nifer y dysgwyr sy’n dewis astudio ieithoedd ar lefel TGAU ar wahân i Gymraeg a Saesneg mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r erthygl hon yn ceisio deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar safbwyntiau dysgwyr ynghylch astudio ieithoedd yng Nghymru. Mae’n dechrau drwy roi trosolwg o bolisi ac ymarfer addysg ieithoedd yng Nghymru a’r newidiadau o ganlyniad i gyflwyno Cwricwlwm i Gymru newydd fesul cam o 2022, yn ogystal â’r llenyddiaeth ar gymhelliad dysgwyr ac ymchwil o Gymru. Canolbwynt yr erthygl hon yw dadansoddiad meintiol o set ddata sylfaenol o bron i 6,000 o ymatebion gan ddysgwyr Blwyddyn 8 a 9 mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Cynhyrchwyd y set ddata hon o holiadur a ddosbarthwyd drwy gynllun mentora ieithoedd, sydd ar waith mewn dwy ran o dair o ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r dadansoddiad yn mynd i’r afael â chwestiynau ynghylch pam mae dysgwyr yng Nghymru yn dewis (neu ddim yn dewis) astudio Ieithoedd Rhyngwladol pan fyddant yn dod i ddewis opsiynau ar gyfer arholiadau TGAU (ar ddiwedd addysg statudol orfodol); y cysylltiadau rhwng Ieithoedd Rhyngwladol a phynciau eraill, yn benodol y Gymraeg a’r Saesneg yn y Cwricwlwm i Gymru newydd; ac anhawster canfyddedig astudio Ieithoedd Rhyngwladol yn yr ysgol. Mae ein canfyddiadau’n dangos bod defnyddioldeb (i’r dyfodol) a mwynhad personol yn ysgogwyr allweddol i ddysgwyr wrth ddewis Iaith Ryngwladol ar lefel TGAU. Hefyd, roedd dysgwyr yn awyddus i ddysgu ieithoedd newydd nad oeddent yn cael eu cynnig yn eu hysgolion. Fodd bynnag, nid oedd y cysylltiadau rhwng Saesneg, Ieithoedd Rhyngwladol a’r Gymraeg fel ieithoedd yn amlwg i lawer o ddysgwyr. Nid oedd dysgwyr o’r farn bod Ieithoedd Rhyngwladol o reidrwydd yn anoddach na phynciau eraill, ac nid anhawster oedd y prif rwystr i ddysgwyr wrth beidio â dewis Ieithoedd Rhyngwladol ar lefel TGAU. Mae’r erthygl yn cloi drwy adlewyrchu ar strategaethau a allai gynyddu ymgysylltiad dysgwyr ag ieithoedd ar adeg dyngedfennol yng Nghymru gyda chyflwyno cwricwlwm newydd a dyheadau amlieithog ar gyfer dysgu ieithoedd.

Keywords: cwricwlwm, , Cymru, ieithoedd, mentora, cymhelliad, amlieithrwydd

How to Cite:

Arfon, E., Gorrara, C., Jenkins, L. & Owen, G., (2025) “Mae Ieithoedd yn ein Cysylltu: Ymchwiliad i Safbwyntiau Dysgwyr ar Ieithoedd Rhyngwladol mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru”, Wales Journal of Education 27(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.27.1.2cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

15 Views

4 Downloads