Research Articles (Welsh)

Ble mae’r ‘Newydd’? Canfyddiadau athrawon o’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer MDPh y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru (2022)

Authors: Merris Griffiths (Cardiff Metropolitan University) , Eve Oliver , Chaminda Hewage , Kate North , Jon Pigott

  • Ble mae’r ‘Newydd’? Canfyddiadau athrawon o’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer MDPh y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru (2022)

    Research Articles (Welsh)

    Ble mae’r ‘Newydd’? Canfyddiadau athrawon o’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer MDPh y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru (2022)

    Authors: , , , ,

Abstract

Cyflwynwyd y Cwricwlwm i Gymru yn swyddogol ar lefel genedlaethol ym mis Medi 2022 ar ôl cyfnod pum mlynedd o ymgynghori a chyd-ddatblygu. Mae athroniaeth o hyblygrwydd addysgegol a sybsidiaredd yn sylfaen i’r diwygiad addysgol uchelgeisiol hwn, sy’n rhoi galluedd i athrawon gynllunio cwricwlwm sy’n briodol i gyd-destun eu hysgol. Mae’r papur hwn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd rhwng Hydref 2021 a Mai 2022, gan ddefnyddio holiaduron ar-lein (n=62) a chyfweliadau lled-strwythuredig (n=4) er mwyn archwilio canfyddiad athrawon y Celfyddydau Mynegiannol o’r cyfleoedd a’r heriau a fydd yn deillio o’r cwricwlwm newydd cyn ei lansio. Mae’r themâu a ddaeth i’r amlwg yn ymwneud â rhyddid a hyblygrwydd cynllunio; dysgu a chydweithredu trawsgwricwlaidd; gwrthwynebiad i newid; effeithiolrwydd a hyder athrawon; hyfforddiant ac arweiniad y llywodraeth; a dyrannu amser ac adnoddau. Mae’r data yn datgelu pryderon am gynllunio’r cwricwlwm, gydag athrawon yn teimlo’n ansicr ynglŷn â ble i ddechrau. Roedd y tensiynau canfyddedig rhwng disgwyliadau a realiti wedi arwain at amheuaeth ynglŷn â chyflwyno newid o’i gymharu ag ‘ail-labelu’ hen arferion yn unig.

Keywords: Y Cwricwlwm i Gymru, Y Celfyddydau Mynegiannol, Canfyddiadau Athrawon, Cyfleoedd, Heriau

How to Cite:

Griffiths, M., Oliver, E., Hewage, C., North, K. & Pigott, J., (2025) “Ble mae’r ‘Newydd’? Canfyddiadau athrawon o’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer MDPh y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru (2022)”, Wales Journal of Education 27(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.27.1.3cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

14 Views

1 Downloads