Abstract
Roedd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i effaith rhyngweithio cymdeithasol ar lefelau cyfranogiad mewn trafodaethau yn yr ystafell ddosbarth. Defnyddiwyd dulliau ansoddol a meintiol. Casglwyd data gan garfan o ddysgwyr lefel 1 rhwng 16 a 19 oed a atebodd gwestiynau ar ddechrau a diwedd yr ymchwil, yn ogystal â chymryd rhan mewn grŵp ffocws ar y diwedd. Cymerodd y dysgwyr ran mewn gweithgaredd diagram Venn yn wythnosol a chawsant wahanol bwnc trafod bob wythnos. Roedd y dysgwyr yn cymryd rhan mewn parau a oedd yn cylchdroi bob wythnos i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn y grŵp wedi siarad â’i gilydd. Mae dadansoddiad cyffredinol o’r data yn dangos bod cynnydd mewn rhyngweithio cymdeithasol wedi cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad â thrafodaethau dosbarth. Mae’r canfyddiadau yn awgrymu, pan oedd y dysgwyr yn teimlo’n seicolegol ddiogel yn yr ystafell ddosbarth, fod eu hymgysylltiad wedi cynyddu. Wrth symud ymlaen, byddai’n fuddiol i ymchwil ddilynol ymchwilio i hyn dros y flwyddyn academaidd gyfan ac ystyried y cyfyngiadau a gafwyd yn yr astudiaeth gyfredol.
Keywords: Rhyngweithio cymdeithasol, Trafodaethau dosbarth, Ymgysylltiad
How to Cite:
Davies, L. K., (2025) “A yw rhyngweithio cymdeithasol yn gwella ymgysylltiad â thrafodaethau yn yr ystafell ddosbarth?”, Ffocws ar Ymarfer (Wales Journal of Education), doi: https://doi.org/10.16922/ffocws11
Downloads:
Download PDF
View PDF