Focus on Practice (Welsh)

Cyfoethogi Dysgu drwy Dechnolegau Ymgolli: Mewnwelediadau a Heriau gan Addysgwyr yng Nghymru

Authors: Sion Owen (Prifysgol Abertawe) , Ross Evans orcid logo (Prifysgol Abertawe) , Chris Wolfe (Prifysgol Abertawe) , Laura Evans (Prifysgol Abertawe) , Rhiannon Pugsley (Prifysgol Abertawe)

  • Cyfoethogi Dysgu drwy Dechnolegau Ymgolli: Mewnwelediadau a Heriau gan Addysgwyr yng Nghymru

    Focus on Practice (Welsh)

    Cyfoethogi Dysgu drwy Dechnolegau Ymgolli: Mewnwelediadau a Heriau gan Addysgwyr yng Nghymru

    Authors: , , , ,

Abstract

Mae’r erthygl hon yn archwilio integreiddiad technoleg ymgolli, yn benodol Realiti Rhithwir (VR) mewn addysg, gan ganolbwyntio ar ei botensial i gyfoethogi lefelau ymgysylltu, cymhelliant a deilliannau dysgu myfyrwyr. Wrth i dechnoleg VR ddod yn fwy hygyrch, mae gan addysgwyr fwy a mwy o ddiddordeb yn ei ddefnydd fel rhan o’r cwricwlwm. Bu astudiaeth gwmpasu a oedd yn cynnwys 26 o athrawon o ysgolion lleol amrywiol yn asesu pa mor gyfarwydd oeddent â VR, ei fanteision canfyddedig a’r heriau sy’n gysylltiedig â’i roi ar waith. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod VR yn cynnig profiadau cyfoethogi, yn meithrin dysgu gweithredol ac yn hyrwyddo tegwch drwy fynd i’r afael â rhwystrau mewn addysg draddodiadol. Fodd bynnag, mae heriau megis fforddiadwyedd, mynediad at offer a’r angen am ddatblygiad proffesiynol yn parhau. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn cyfrannu at ddealltwriaeth o dechnolegau ymgolli mewn addysg, a sut y’u gweithredir, sy’n cyd-fynd ag ymrwymiad y Cwricwlwm i Gymru i addysgeg arloesol, ynghyd â phrofiadau dysgu teg a chynhwysol.

How to Cite:

Owen, S., Evans, R., Wolfe, C., Evans, L. & Pugsley, R., (2025) “Cyfoethogi Dysgu drwy Dechnolegau Ymgolli: Mewnwelediadau a Heriau gan Addysgwyr yng Nghymru”, Ffocws as Ymarfer (Cylchgrawn Addysg Cymru), doi: https://doi.org/10.16922/ffocws8 

Downloads:
Download PDF
View PDF

22 Views

3 Downloads