Research Articles (Welsh)

Arweinyddiaeth Addysgol yng Nghymru Ers Datganoli

Authors: Jeremy Griffiths orcid logo (CaBan, Prifysgol Bangor) , Gethin Jones (Prifysgol Bangor)

  • Arweinyddiaeth Addysgol yng Nghymru Ers Datganoli

    Research Articles (Welsh)

    Arweinyddiaeth Addysgol yng Nghymru Ers Datganoli

    Authors: ,

Abstract

Mae’r erthygl hon yn archwilio esblygiad arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru ers datganoli, gan dynnu sylw at y prif ddatblygiadau, heriau a diwygiadau. Er gwaethaf dechrau araf wrth fabwysiadu arweinyddiaeth fel gyrrwr polisi, mae Cymru wedi cymryd camau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gydnabod rôl hanfodol arweinyddiaeth yn neilliannau disgyblion. Mae arddulliau arweinyddiaeth wleidyddol a gweinidogol wedi amrywio, gan ddylanwadu ar ddiwygiadau addysgol o bwys fel y Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm i Gymru. Mae effaith asesiadau rhyngwladol fel PISA, ochr yn ochr ag adolygiadau OECD, wedi tanlinellu’r angen am arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel. Mae mentrau fel yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a’r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn adlewyrchu ymrwymiad Cymru i feithrin arweinyddiaeth addysgol. Fodd bynnag, mae heriau’n parhau, gan gynnwys problemau recriwtio a chadw staff, pryderon am lwyth gwaith, ac effeithiau parhaus pandemig COVID-19. Mae’r erthygl hon yn eirioli am ddull rhagweithiol o ddatblygu arweinyddiaeth, gan bwysleisio dysgu proffesiynol, systemau cymorth, a newid diwylliannol i ddyrchafu statws arweinwyr addysgol. Trwy adeiladu ar gyflawniadau’r gorffennol a mynd i’r afael â’r heriau presennol, gall Cymru sicrhau gwelliant addysgol cynaliadwy ac amgylchedd dysgu bywiog i’r holl fyfyrwyr.

Keywords: arweinyddiaeth addysgol, datganoli, Cymru, diwygio addysgol, datblygiad proffesiynol

How to Cite:

Griffiths, J. & Jones, G., (2024) “Arweinyddiaeth Addysgol yng Nghymru Ers Datganoli”, Wales Journal of Education 26(2), 159–177. doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.2.11cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

45 Views

4 Downloads

Published on
29 Nov 2024
Peer Reviewed