Abstract
Mae polisi addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, mewn sawl ffordd, wedi adlewyrchu pryderon byd-eang ehangach ynghylch yr angen i gynhyrchu digon o athrawon o ansawdd uchel i sicrhau bod deilliannau disgyblion yn gymaradwy â deilliannau disgyblion gwledydd eraill, er mwyn galluogi Cymru i barhau i fod yn gystadleuol yn economaidd. Ar ôl etifeddu gwaddol polisïau AGA San Steffan ym 1999, ni aeth Llywodraeth Cymru ati ar unwaith i ddiwygio’r ddarpariaeth ar y pryd, ond mae tri adolygiad gwahanol o AGA yn y degawd rhwng 2005 a 2015 wedi arwain at newidiadau sylweddol yn strwythur AGA yng Nghymru, a’r dulliau addysgegol sy’n sail i bob rhaglen. Rydym yn archwilio pob un o’r tair cyfres o ddiwygiadau mewn perthynas â’r cyd-destun, y cynnwys a’r prosesau penodol dan sylw, yn ogystal â’r prif gyfranogwyr polisi, ac yn trafod esblygiad y gwaith o lunio polisi AGA dros y 25 mlynedd ers datganoli.
Keywords: addysg gychwynnol i athrawon, polisi addysg athrawon, addysg athrawon Cymru, diwygio polisi yng Nghymru
How to Cite:
Mutton, T. & Breeze, T., (2024) “Ydyn ni bron yno? 25 mlynedd o bolisi addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru”, Wales Journal of Education 26(2), 107–127. doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.2.8cym
Downloads:
Download PDF
View PDF