Abstract
Yn y 25 mlynedd ers datganoli yng Nghymru, mae dysgu proffesiynol wedi newid yn sylweddol. Mae’r erthygl hon yn ystyried datblygiad mentrau Llywodraeth Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf ac yn archwilio lle y gellir eu rhoi ar gontinwwm rhwng dulliau trosglwyddol a thrawsnewidiol. Mae’r erthygl hefyd yn archwilio datblygiadau diweddar o ran dysgu proffesiynol trwy lens cysyniadau gwleidyddol, proffesiynol a phragmatig o’r maes. Er mai prin yw’r ymchwil empirig ar y mentrau hyn, mae rhywfaint o dystiolaeth o newidiadau mewn polisi ac ymarfer yng Nghymru sydd â’r nod o symleiddio a gwella sicrwydd ansawdd dysgu proffesiynol i ymarferwyr. Mae diffiniad Llywodraeth Cymru o ddysgu proffesiynol yn esblygu, ac mae’n bosibl bod tirwedd gadarnhaol wedi’i ffurfio o ddysgu proffesiynol a arweinir yn broffesiynol ac sy’n drawsnewidiol yn dod i’r amlwg. Fodd bynnag, mae’r erthygl yn dadlau bod gan ddysgu proffesiynol rywfaint o ffordd i fynd cyn iddo gael ei integreiddio’n llawn i ddiwylliant dysgu ysgolion yng Nghymru.
Keywords: dysgu proffesiynol, newid polisi, Cymru, datganoli, arweinyddiaeth addysgol, ymholiad proffesiynol
How to Cite:
Hutt, M., Smith, K. & Jones, K., (2024) “Dysgu proffesiynol mewn addysg: polisi ac ymarfer yng Nghymru ers datganoli”, Wales Journal of Education 26(2), 41–56. doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.2.4cym
Downloads:
Download PDF
View PDF