Focus on Practice (Welsh)

Cyrchu’r Cnu Aur: cyrch i werthuso’r ffordd y mae Deallusrwydd Emosiynol yn dylanwadu ar waith arweinwyr ysgolion cynradd

Authors: Stella Stavrou Theodotou (The Open University UK) , Janet A. Harvey (Freelance researcher)

  • Cyrchu’r Cnu Aur: cyrch i werthuso’r ffordd y mae Deallusrwydd Emosiynol yn dylanwadu ar waith arweinwyr ysgolion cynradd

    Focus on Practice (Welsh)

    Cyrchu’r Cnu Aur: cyrch i werthuso’r ffordd y mae Deallusrwydd Emosiynol yn dylanwadu ar waith arweinwyr ysgolion cynradd

    Authors: ,

Abstract

Beth sydd eisoes yn hysbys? Mae’r erthygl hon yn cynnig methodoleg ar gyfer ymchwilio i ddeallusrwydd emosiynol o fewn cyd-destunau gwaith arweinwyr addysgol. Roedd methodolegau sy’n bodoli eisoes yn cynnwys nifer o ddulliau a oedd weithiau’n gwrth-ddweud ei gilydd, heb yr un ohonynt yn gweddu’n union i nodau’r prosiect. Mae’r erthygl hon yn archwilio’r gwahanol enghreifftiau o wrth-ddweud sy’n codi ynddynt, ac yn cyfiawnhau’r dewis terfynol o dri dull ar gyfer sicrhau’r data angenrheidiol.

Beth mae’r erthygl hon yn ei ychwanegu?
Nid yw’r dulliau eu hunain yn newydd; yr hyn a oedd yn arloesol oedd eu defnydd cyfunol i ddehongli sut roedd arweinwyr yn credu eu bod yn defnyddio deallusrwydd emosiynol i ddylanwadu ar waith tîm a rhannu gweledigaeth. Mae materion cyfieithu sy’n deillio o gyd-destun yr ymchwil hefyd yn cael sylw byr. Mae’r cyfan wedi’i fframio trwy lens ymchwil fel taith, a methodoleg yn fap ar gyfer y daith honno.

Beth yw’r goblygiadau?
Mae’r erthygl hon wedi’i bwriadu ar gyfer arweinwyr ysgol, athrawon-ymchwilwyr ac academyddion sy’n dymuno archwilio effaith deallusrwydd emosiynol arweinwyr yn hytrach na dim ond ceisio ei fesur. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd gwerthuso deallusrwydd emosiynol yn ei gyd-destun trwy ddisgrifio un prosiect a geisiodd grynhoi dirnadaeth ddofn o’r cysylltiadau rhwng deallusrwydd emosiynol ac arweinyddiaeth ysgol mewn tair ysgol gynradd yng Nghyprus.

Keywords: deallusrwydd emosiynol, arweinyddiaeth, ymchwil ar ffurf cyrch, methodoleg ar ffurf creu mapiau

How to Cite: Stavrou Theodotou, S. & Harvey, J. A. (2023) “Cyrchu’r Cnu Aur: cyrch i werthuso’r ffordd y mae Deallusrwydd Emosiynol yn dylanwadu ar waith arweinwyr ysgolion cynradd”, Ffocws ar Ymarfer (Cylchgrawn Addysg Cymru), doi: https://doi.org/10.16922/wje.p3

Downloads:
Download PDF
View PDF

90 Views

19 Downloads