Focus on Practice (Welsh)

A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?

Author: Darius Klibavicius

  • A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?

    Focus on Practice (Welsh)

    A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?

    Author:

Abstract

Mae’r papur hwn yn mynd i’r afael â mater addysgu athroniaeth mewn addysg gynradd, uwchradd ac ôl-uwchradd/trydyddol a photensial ei gynnwys yng nghwricwla ysgolion yng Nghymru. Roedd y data ar gyfer yr ymchwil empirig hon yn deillio o astudiaeth dulliau cymysg yn cynnwys data ansoddol (cyfweliadau lled-strwythuredig, n=12) a meintiol (arolwg ar-lein, n=163). Cynhyrchodd dadansoddiad ystadegol disgrifiadol ar gyfer data meintiol a dadansoddiad thematig ar gyfer data ansoddol dystiolaeth sy’n awgrymu bod athrawon yn gweld athroniaeth yn fwy fel rhan annatod o bynciau eraill ac fel dull o ddysgu yn hytrach nag fel pwnc academaidd arwahanol. At hynny, ystyrir athroniaeth yn bennaf fel rhan o’r tri Maes Dysgu a Phrofiad canlynol: Dyniaethau, Iechyd a Lles ac Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae’r erthygl felly yn ystyried cwmpas cymwysiadau ymchwil a goblygiadau i ymarferwyr addysgol a llunwyr polisi.

Keywords: Cwricwlwm, Athroniaeth, Athroniaeth i Blant, Addysgu Athroniaeth, Cymru

How to Cite: Klibavicius, D. (2023) “A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?”, Ffocws ar Ymarfer (Cylchgrawn Addysg Cymru), doi: https://doi.org/10.16922/wje.p2

Downloads:
Download PDF
View PDF

226 Views

50 Downloads