Abstract
Amcan Mudiad Ysgolion Meithrin yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o dan bump oed trwy gyfrwng y Gymraeg mewn Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi. Anelir at gyfoethogi ac ymestyn Cymraeg plant o gartrefi Cymraeg, ac at hybu dwyieithrwydd cynnar mewn plant o gartrefi di-Gymraeg. O ganlyniad, ystyrir bod gan y Mudiad ran benodol i'w chwarae yn y broses gynllunio ieithyddol yng Nghymru, a chaiff ei gynnwys ymysg y prif gyrff a sefydliadau y mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cydweithio â hwy i gyrraedd nifer o nodau ac amcanion yn ymwneud â chynllunio dyfodol yr iaith Gymraeg.Serch y dybiaeth gyffredinol bod mynychu Cylch Meithrin yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad Cymraeg plant o gartrefi Cymraeg a di-Gymraeg, ni chafwyd unrhyw dystiolaeth gadarn hyd yma o blaid neu yn erbyn hynny. Fodd bynnag, dengys canlyniadau'r ymchwil penodol hwn, am y tro cyntaf, fod plant sy'n mynychu Cylchoedd Mudiad Ysgolion Meithrin am gyfnod o flwyddyn ysgol yn datblygu'n arwyddocaol mewn ystod o sgiliau iaith gan osod sylfeini ar gyfer datblygiad ieithyddol pellach yn y Gymraeg: gwrando a deall, siarad a chyfathrebu, a sgiliau llythrennedd cynnar. Trafodir y modd yr aethpwyd ati i asesu datblygiad y plant yn y meysydd ieithyddol hyn, a chodir rhai ystyriaethau pellach er mwyn galluogi'r Mudiad i adeiladu ar ganlyniadau'r ymchwil a pharhau i gyfrannu at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
How to Cite:
Lewis, W. G. & Gareth, E., (2004) “Datblygiad Iaith yng Nghylchoedd Mudiad Ysgolion Meithrin”, Wales Journal of Education 13(1), 44-68.
Downloads:
Download PDF
View PDF