Research Articles (Welsh)
Authors
Mae’r papur hwn yn cyflwyno canfyddiadau athrawon am ddefnydd effeithiol o dechnoleg wrth addysgu’r celfyddydau mynegiannol mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru yn ystod cyfnod arwyddocaol o newid gorfodol, o ganlyniad i ddiwygio’r cwricwlwm a chyfyngiadau’r pandemig. Trwy ddefnyddio cyfweliadau cydamserol lled-strwythuredig, casglwyd canfyddiadau a meddyliau athrawon ynglŷn â defnydd effeithiol o dechnoleg yn eu dulliau addysgu. Llwyddodd dadansoddiad thematig anwythol a datblygiad themâu cudd i ddatgelu nifer o themâu allweddol. Pennwyd defnydd pwrpasol o’r dechnoleg ynghyd â fforddiannau’r dechnoleg yng nghyd-destun COVID-19 ac mewn cyd-destun pwnc-benodol. Mae rhwystrau o ran defnyddio technoleg yn awgrymu’r modd yr aildaniodd y pandemig bryderon ynglŷn â materion yn ymwneud â mynediad. Mae canfyddiadau’r papur hwn yn tynnu sylw at brosesau creadigol ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol, a’r modd y caiff canfyddiadau athrawon am ddefnydd effeithiol o dechnoleg yn eu meysydd pwnc penodol eu llywio gan ecoleg ddysgu ehangach o fewn y Celfyddydau Mynegiannol. Yn gyffredinol, mae’r model canlyniadol, a elwir yn Broses Diben Hyd at Ganlyniad (PtO), yn tynnu sylw at ganfyddiadau a damcaniaethau ymarferol athrawon uwchradd y Celfyddydau Mynegiannol yng Nghymru wrth ystyried defnydd effeithiol o dechnoleg yn eu dulliau addysgu (yn cynnwys eu maes pwnc penodol) yn ystod cyfyngiadau’r pandemig a chyfnod o ddiwygio mawr yn hanes y cwricwlwm.
Keywords: y Cwricwlwm i Gymru, y celfyddydau mynegiannol, fforddiannau technoleg, canfyddiadau athrawon
How to Cite: Chapman, S. , Beauchamp, G. & Griffiths, M. (2026) “Canfyddiadau Athrawon am Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg wrth Addysgu’r Celfyddydau Mynegiannol mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru”, Wales Journal of Education. 28(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.768cym
None