Research Articles (Welsh)

Partneriaeth orfodol ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon: profiadau a chanfyddiadau addysgwyr athrawon yng Nghymru

Authors

Abstract

Mae amwysedd yn parhau ynglŷn â’r hyn y mae model partneriaeth ym maes addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn ei olygu yn ymarferol i’r rhai sy’n ei roi ar waith mewn ysgolion a phrifysgolion, er gwaethaf dau ddegawd a mwy o ymchwil rhyngwladol i fodelau partneriaeth. Mae’r papur hwn wedi’i ysgrifennu yng nghyd-destun diwygiadau parhaus ac arwyddocaol yn y system addysg yng Nghymru, gan gynnwys newid systemig ym maes AGA. Mae’r papur hwn yn adrodd ar ail gam prosiect tri cham sy’n archwilio canfyddiadau a phrofiadau unigolion sy’n gweithio fel addysgwyr athrawon ar draws un bartneriaeth yn cynnwys prifysgol ac ysgolion. Yn benodol, mae’r papur hwn yn archwilio canfyddiadau a phrofiadau cyfranogwyr o ‘weithio mewn partneriaeth’ a ‘chyfrifoldeb ar y cyd’, sef dau o ofynion y model partneriaeth gorfodol ar gyfer darpariaeth AGA ledled Cymru. Gan ddefnyddio galluogedd perthynol, sef y gallu i gydweithio’n effeithiol i fynd i’r afael â heriau cymhleth (Edwards, 2009), mae dadansoddiad o ddata arolwg ar-lein o addysgwyr athrawon mewn un bartneriaeth AGA yng Nghymru yn dangos enghreifftiau ar lefel ficro o’r hyn y gall gweithio mewn partneriaeth ei gyflawni. Hynny yw, dwyn adnoddau ynghyd - gwahanol fathau o wybodaeth sy’n cael eu negodi trwy geisio deall a gwerthfawrogi cymhelliant y partner arall, er mwyn datblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymarfer myfyrwyr AGA. Rydym yn dadlau bod y weledigaeth ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chyfrifoldeb ar y cyd ym maes AGA yng Nghymru yn golygu bod angen i alluogedd berthynol fod yn amlwg ymhob rhaglen AGA achrededig.

Keywords: partneriaeth, addysg gychwynnol athrawon AGA, Cymru, cyfrifoldeb ar y cyd, galluogedd perthynol

How to Cite: Waters-Davies, J. & Livingston, K. (2026) “Partneriaeth orfodol ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon: profiadau a chanfyddiadau addysgwyr athrawon yng Nghymru”, Wales Journal of Education. 28(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.762cym

None