Research Articles (Welsh)

Ysgogwyr newid: gweithio gyda phobl ifanc 16–24 oed i ddatblygu adnodd ar sut i wneud newid gwleidyddol a chymdeithasol yng Nghymru

Authors

Abstract

Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pobl ifanc yn y DU yn fwy tebygol o fod yn anfodlon â democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol, er eu bod yn cymryd rhan mewn mathau eraill o fywyd gwleidyddol o bosibl. Mae addysg ar wleidyddiaeth, democratiaeth a dinasyddiaeth yn allweddol i sicrhau ymgysylltiad. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu bod angen i bobl ifanc gael addysg well am hanfodion gwleidyddiaeth/dinasyddiaeth er mwyn helpu i ennyn eu diddordeb. Gan ddefnyddio Cymru fel astudiaeth achos a thrwy gydweithio â dinasyddion ifanc Cymru rhwng 16 a 24 oed, mae’r prosiect Ysgogwyr Newid yn archwilio’r hyn y maent yn ei wybod am sefydliadau gwleidyddol y DU a gwneud newid gwleidyddol/cymdeithasol, a’r math o adnodd/adnoddau sydd ei angen/eu hangen arnynt i wella eu dealltwriaeth, gan alluogi dinasyddiaeth weithgar. Mae’r erthygl hon yn trafod canfyddiadau allweddol y gwaith ymchwil hwn, gan ganolbwyntio ar greu adnodd addysgol amlieithog (gwefan ryngweithiol). Mae’r canfyddiadau’n datgelu bylchau sylweddol mewn dealltwriaeth wleidyddol, yn enwedig yn ymwneud â llywodraethu datganoledig a phwy sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â phryderon gwleidyddol. Mae hyn yn amlygu’r angen am wybodaeth sy’n berthnasol i wledydd penodol. Mae’r papur hwn yn cyflwyno dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc er mwyn darparu gwybodaeth wleidyddol sy’n integreiddio ymgysylltiad digidol a hygyrchedd amlieithog. Ar gyfer ymarferwyr, mae’r gwaith ymchwil yn tanlinellu manteision datblygu adnoddau addysgol gyda phobl ifanc.

Keywords: addysg dinasyddiaeth, gwybodaeth wleidyddol, gwneud newid, pobl ifanc, Cymru, dylunio adnoddau

How to Cite: Smith, D. & Hewitt, J. (2026) “Ysgogwyr newid: gweithio gyda phobl ifanc 16–24 oed i ddatblygu adnodd ar sut i wneud newid gwleidyddol a chymdeithasol yng Nghymru”, Wales Journal of Education. 28(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.767cym

None