Focus on Practice (Welsh)

Gwella Hyder a Chymhwysedd yn y Gymraeg drwy Ddarpariaeth Ddwyieithog

Author

Abstract

Mae strategaeth ‘Cynnig Rhagweithiol’ Llywodraeth Cymru (2022) yn ceisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg drwy sicrhau bod gan bawb sy’n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gymraeg lefel cwrteisi. Cyflwynwyd modiwl cyfathrebu’n ddwyieithog i grŵp o fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ddeng wythnos. Sgoriodd myfyrwyr eu hunain ar eu sgiliau siarad Cymraeg, eu hyder mewn siarad Cymraeg cwrteisi a pha mor bwysig oedd darparu gwasanaethau’n ddwyieithog yn eu tyb nhw cyn ac ar ôl y modiwl. Dangosodd y canlyniadau fod y myfyrwyr yna adrodd bod eu sgiliau siarad Cymraeg, eu hyder wrth ddefnyddio’r sgiliau hyn a’u dealltwriaeth o bwysigrwydd siarad Cymraeg a’r ‘Cynnig Rhagweithiol’ wedi cynyddu.

Keywords: dwyieithrwydd, sgiliau Cymraeg, cynnig rhagweithiol

How to Cite: Lewis, A. (2026) “Gwella Hyder a Chymhwysedd yn y Gymraeg drwy Ddarpariaeth Ddwyieithog”, Wales Journal of Education. 1(0). doi: https://doi.org/10.16922/ffocws21

None