Focus on Practice (Welsh)

Addasu prosiect Dylunio a Thechnoleg i adlewyrchu’r gofynion newidiol o ran gweithio yn y MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Astudiaeth achos

Author

Abstract

Mae arweinwyr diwydiant yn nodi’n aml eu bod angen cyflogeion a all feddwl y tu hwnt i’r ffiniau a osodir yn draddodiadol gan bynciau. Mae nifer o wledydd yn cyflwyno rhyw fath o ddysgu rhyngddisgyblaethol a dull cyfannol o gaffael gwybodaeth er mwyn ceisio cynnig mantais i bobl ifanc yn y farchnad swyddi ddeinamig a hynod gystadleuol sydd ohoni.
Yn yr astudiaeth achos hon, sy’n ymwneud â dau ddosbarth Blwyddyn 9 (n=28) mewn un ysgol uwchradd yn Ne Cymru, ymchwiliwyd i’r modd y mae integreiddio cysylltiadau rhyngddisgyblaethol mewn addysg Dylunio a Thechnoleg yn cyfoethogi dealltwriaeth gyfannol y dysgwyr ac yn gwella datrysiadau cyd-destunol. Yng nghyd-destun gofynion newydd Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Cwricwlwm i Gymru a’i ffocws ar ddysgu rhyngddisgyblaethol, aethpwyd ati i archwilio’n feirniadol addasu, cyflawni, gwerthuso, a dulliau asesu.
Casglwyd data trwy gyfrwng holiaduron a chyfweliadau, a hefyd trwy arsylwi ar allbwn dysgwyr. Dengys y canlyniadau fod cysylltiadau rhyngddisgyblaethol penodol yn gwella ymgysylltiad a dealltwriaeth y dysgwyr ynghyd â’r modd y cymhwysant wybodaeth ar draws pynciau. Mae hyn yn esgor ar oblygiadau mewn perthynas ag addysgu Dylunio a Thechnoleg, a thu hwnt, wrth i addysgwyr yng Nghymru geisio creu cyfleoedd gwirioneddol drawsgwricwlaidd i ddysgwyr.

Keywords: Dylunio a Thechnoleg, Prosiectau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Maes Dysgu a Phrofiad, MDaPh, Cwricwlwm i Gymru

How to Cite: Shergold, J. D. (2026) “Addasu prosiect Dylunio a Thechnoleg i adlewyrchu’r gofynion newidiol o ran gweithio yn y MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Astudiaeth achos”, Wales Journal of Education. 1(0). doi: https://doi.org/10.16922/ffocws18

None