Research Articles (Welsh)

Defnyddio currere i ystyried tirweddau’r gorffennol a’r dyfodol o ran y defnydd o dechnoleg mewn dysgu ac addysgu: argraffiadau gan Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD)

Authors

Abstract

Mae’r erthygl hon yn archwilio profiadau bywyd blaenorol a dyheadau posibl at y dyfodol mewn perthynas â’r defnydd o dechnoleg o safbwynt prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae gan Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD) 32 aelod o bob un o’r 9 prifysgol yng Nghymru sy’n canolbwyntio’n benodol ar dechnoleg ym maes dysgu ac addysgu. Trwy ddull hunangofiannol currere, nod yr astudiaeth yw rhoi sylw i brofiadau blaenorol pob aelod o’r adeg yr oeddent yn ddysgwyr eu hunain; cyfeirir at hyn fel y cam atchweliadol. Nod yr astudiaeth hefyd yw archwilio tirwedd y defnydd o dechnoleg yn y dyfodol wrth ddysgu ac addysgu, gan ddefnyddio cam blaengar y dull currere, i ganiatáu i gyfranogwyr feddwl beth allai ddod i fod. Ar ôl casglu’r holl bytiau unigol, pytiau sy’n cyfeirio at atgofion, straeon ac anecdotau unigol, llwyddodd synthesis i nodi a damcaniaethu unrhyw nodweddion cyffredin. Prif ganfyddiad yr ymchwil yw bod technoleg, a’r holl wahanol dechnolegau, yn cael ei thrin fel offeryn y gall athrawon ddewis ei weithredu pan fyddant yn ystyried bod hynny’n briodol yn addysgol, yn enwedig o ystyried buddion technoleg a all drawsnewid cyfleoedd dysgu ac addysgu.

Keywords:

How to Cite: Chapman, S. , Beauchamp, G. , Evans, R. , Zeeman, G. , Young, N. , Yhnell, E. , Wills, N. , Williams, C. , Watkins, G. , Tiddeman, B. , Owen, S. , Owen, K. , Osborne, S. , Morgan, G. , Meace-Williams, S. , Martin, L. , Lewis, J. , Lewis, C. , Layland, S. , Karlinger, P. , Jones, M. , Jones, K. , Hughes, C. , Horder, S. , Haines, J. , Gregory, C. , Giddy, J. , Francis, N. , Davies, O. , Crick, T. , Ayres, J. & Atherton, S. (2025) “Defnyddio currere i ystyried tirweddau’r gorffennol a’r dyfodol o ran y defnydd o dechnoleg mewn dysgu ac addysgu: argraffiadau gan Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD)”, Wales Journal of Education. 27(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.27.1.6cym

None