Focus on Practice (Welsh)

Cyd-ddylunio mannau dysgu gyda dysgwyr: Gwersi o ystafell ddosbarth ysgol gynradd Gymraeg

Authors: , , , , , , , , ,

Abstract

Mae’r ymchwil hon yn cyflwyno astudiaeth achos o fyfyrdodau a gasglwyd oddi wrth un dosbarth ar sut yr oeddent wedi ail-ddylunio eu hystafell ddosbarth i weddu i anghenion amrywiol yr athro a’r dysgwyr, a sut mae dysgwyr yn parhau i addasu eu man dysgu i weddu i’w hanghenion unigol yn well. Mae canfyddiadau’r papur hwn yn taflu goleuni ar sut mae dysgwyr yn gwerthfawrogi galluogedd a dewis yn eu hystafelloedd dosbarth, rhywbeth y gellir ei gyflawni drwy gynnig arwynebau gwaith a mannau amrywiol iddynt i gwblhau gweithgareddau dysgu. Awgrymodd y dysgwyr fod amgylcheddau dysgu hyblyg yn eu galluogi i ddewis ble a sut i gwblhau eu gwaith, ond hefyd yn eu galluogi i leoli eu hunain mewn amgylcheddau cymdeithasol sy’n addas i’w hanghenion dysgu. Mae’r gwaith hwn yn rhoi cyd-destun a gweledigaeth bellach ar weithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru o fis Medi 2022 ymlaen, yn ogystal â’r diwygiadau ehangach ar lefel system addysg sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Keywords: mannau dysgu, Cymru, cyd-ddylunio, ysgol gynradd, amgylcheddau dysgu hyblyg

How to Cite: McQueen, R. , Pullen, M. , Chapman, S. , Hann, S. , Beauchamp, G. , Crick, T. , Davies, O. , Hughes, C. , Lewis, C. & Owen, K. (2024) “Cyd-ddylunio mannau dysgu gyda dysgwyr: Gwersi o ystafell ddosbarth ysgol gynradd Gymraeg”, Wales Journal of Education. 1(0). doi: https://doi.org/None/wje.648

None