Research Articles (Welsh)

Diffinio Ymgysylltiad Rhieni ag AGA: o berthnasoedd i bartneriaethau

Authors: , , , , , , , , ,

Abstract

Mae’r papur hwn yn cyflwyno golwg unigryw ar werth canfyddedig ymgysylltiad rhieni â dysgu plant o fewn Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru, yr ymchwiliad cyntaf o’i fath. Mae’n deillio o brosiect ymchwil dan nawdd Llywodraeth Cymru gan dimau o Brifysgolion Abertawe a Bangor. Mae’r papur yn adrodd barn darparwyr AGA, athrawon dan hyfforddiant, mentoriaid, rhieni a rhanddeiliaid allanol, ynglŷn â’u profiadau yn ystod cyfnod clo’r pandemig. Canfu’r ymchwil, er bod yr holl randdeiliaid yn gwerthfawrogi ymgysylltiad rhieni, roedd diffyg cysondeb ynghylch sut yr oedd hyn yn cael ei ddiffinio a’i weithredu. Mae’r papur yn cynnig datgysylltiad rhwng damcaniaeth fabwysiedig a damcaniaeth ar waith, o ran ymgysylltiad rhieni â dysgu plant, ac yn gorffen gydag argymhellion ar gyfer polisi, ymarfer ac ymchwil bellach.

Keywords: Cymru, ymgysylltiad rhieni, addysg gychwynnol athrawon

How to Cite: Goodall, J. , Lewis, H. , Clegg, Z. , Ylonen, A. , Wolfe, C. , Owen, S. , Hughes, C. , Williams, M. , Roberts, D. & Ramadan, I. (2022) “Diffinio Ymgysylltiad Rhieni ag AGA: o berthnasoedd i bartneriaethau”, Wales Journal of Education. 24(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.24.2.2cym