Research Articles (Welsh)

Gweithredu Model ABA yn yr Ystafell Ddosbarth mewn ysgol addysg arbennig a gynhelir yng Nghymru

Authors: ,

Abstract

Prin yw’r canllawiau i athrawon ynglyˆn â’r ffordd orau o addysgu plant ifanc mewn ysgolion AAA yng Nghymru. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod addysgu seiliedig ar Ddadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) yn fodel effeithiol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 1 mewn ysgolion anghenion arbennig a gynhelir (Foran et al., 2015; Pitts, Gent a Hoerger, 2019). Aeth yr astudiaeth gyfredol ati i efelychu’r model ac roedd yn cynnwys mesurau’r cwricwlwm (Graddfeydd P) a ddefnyddir yn aml gan addysgwyr a’r asesiadau norm-gyfeiriol ac sydd wedi’u dilysu (MSEL a VABSII) a ddefnyddir yn gyffredin gan ymchwilwyr. Ar ôl gweithredu’r model ABA yn yr ystafell ddosbarth, gwnaeth cyfranogwyr enillion sylweddol ar fesurau’r cwricwlwm a’r asesiadau norm-gyfeiriol. Roedd y data o bob asesiad yn dangos enillion arwyddocaol yn ystadegol gyda meintiau effaith canolig i fawr. Mae’r astudiaeth hon yn dangos sut y gall athrawon ddefnyddio strategaethau dadansoddi ymddygiad i baratoi myfyrwyr gyda sgiliau parodrwydd ar gyfer dysgu sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer cael mynediad at y cwricwlwm. Mae’r astudiaeth hon yn amlinellu sut y gall technegau seiliedig ar egwyddorion ABA ategu’r ddarpariaeth addysgol mewn ysgolion AAA a gynhelir yng Nghymru.

Keywords: dadansoddiad ymddygiad cymhwysol, addysg arbennig a gynhelir, ymyrraeth yn yr ystafell ddosbarth, Graddfeydd P, awtistiaeth

How to Cite: O'Boyle, H. & Hoerger, M. (2021) “Gweithredu Model ABA yn yr Ystafell Ddosbarth mewn ysgol addysg arbennig a gynhelir yng Nghymru”, Wales Journal of Education. 23(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.23.1.2cym