Research Articles (Welsh)

Effeithlonrwydd Canolig: Cymharu Mewnbynnau ac Allbynnau yn ôl Iaith y Cyfarwyddyd mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru

Author:

Abstract

Defnyddir dull meta-derfyn i werthuso effeithlonrwydd y modd y caiff mewnbynnau i'r broses addysg eu trosi'n allbynnau, gan ddefnyddio data ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru a gafwyd o astudiaeth PISA 2015. Mae effeithlonrwydd ysgolion lle mae'r addysgu'n cael ei wneud drwy gyfrwng y Saesneg yn cael ei gymharu ag effeithlonrwydd ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ar y rhan fwyaf o fesurau, mae mewnbynnau i'r olaf yn gymharol uchel, gan effeithio ar y lefelau effeithlonrwydd a welwyd. Er mwyn gwella sgorau PISA yng Nghymru, mae'n debygol y bydd angen gwella perfformiad ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond mae angen rhoi cydnabyddiaeth bendant i unrhyw gyfaddawdu rhwng gwelliant o'r fath a gwireddu nodau polisi sy'n ehangach na'r rhai a werthusir yn PISA.

Keywords:

How to Cite: Johnes, G. (2020) “Effeithlonrwydd Canolig: Cymharu Mewnbynnau ac Allbynnau yn ôl Iaith y Cyfarwyddyd mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru”, Wales Journal of Education. 22(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.2.3