Research Articles (Welsh)

Addasrwydd y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg at gynhyrchu siaradwyr yr iaith

Author:

Abstract

Diben y gwaith ymchwil hwn oedd ymchwilio i nodweddion gwersi a chysyniadaeth yr athrawon am y rhaglen Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, Cyfnodau Allweddol 2 a 3, i weld a oeddent yn cefnogi addysgeg sydd yn anelu at ddatblygu hyfedredd cyfathrebol y disgyblion. Ystyrir hyn yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd i Gymru a gaiff ei weithredu'n llawn erbyn 2022, a'i bwyslais ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel ffordd o gyfathrebu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, o fewn cyd-destun gweledigaeth ieithyddol Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r erthygl yn codi cwestiwn am y graddau y mae'r ddarpariaeth Gymraeg bresennol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn addas i gynhyrchu siaradwyr yr iaith.

Keywords:

How to Cite: Beard, A. (2020) “Addasrwydd y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg at gynhyrchu siaradwyr yr iaith”, Wales Journal of Education. 22(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.2.1