Research Articles (Welsh)

Dylunio Rhaglen Integredig o Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynnydd, Ystyriaethau a Myfyrdodau

Authors: , , , ,

Abstract

Mae'r erthygl hon yn edrych ar ddatblygu rhaglen integredig o addysg gychwynnol i athrawon wedi'i seilio ar ddull ymarfer clinigol sy'n ceisio datblygu athrawon dan hyfforddiant fel ymarferwyr adfyfyriol sy'n gweithio ar sail ymchwil. Mae'r erthygl yn amlinellu penderfyniadau allweddol wrth ddatblygu ymagwedd integredig at raglen newydd o addysg gychwynnol i athrawon sy'n llawn ymchwil ac yn seiliedig ar ymchwil. Mae'n tynnu sylw at ba mor ganolog yw dull partneriaeth wrth ddylunio'r rhaglen ac yn amlinellu'r broses ddatblygu ar y cyd wrth wraidd y rhaglen. Mae'r erthygl hefyd yn egluro sut mae arbenigwyr pwnc Prifysgol yn rhan annatod o'r rhaglen AGA, gan ddarparu arbenigedd pwnc ac ymchwil. Amlinellir prif nodweddion y rhaglen integredig hon o AGA, ac mae'r erthygl yn gorffen drwy gynnig rhai myfyrdodau ac ystyriaethau ynghylch dull o gyflwyno addysg gychwynnol i athrawon sy'n wirioneddol seiliedig ar ymchwil ac wedi'i seilio ar waith ymchwilio gan athrawon.

Keywords:

How to Cite: Lewis, H. , Harris, A. , Jones, M. , Lucas, N. & Thomas, J. (2020) “Dylunio Rhaglen Integredig o Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynnydd, Ystyriaethau a Myfyrdodau”, Wales Journal of Education. 22(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.7