Research Articles (Welsh)

Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?

Authors: ,

Abstract

Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cyddestun ar gyfer y diwygiadau cyfredol i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru Mae'r adran gyntaf yn cyflwyno'r prif ddatblygiadau hanesyddol cyn archwilio tair thema allweddol sy'n parhau i fod yn bwysig iawn heddiw: y sail resymegol a'r cwricwlwm ar gyfer addysg athrawon, natur cydweithredu rhwng ysgolion a phrifysgolion wrth baratoi athrawon, a datblygu ymchwil addysgol o fewn addysg gychwynnol i athrawon, ar lefel partneriaeth prifysgolion ac ysgolion. Y ddadl ganolog yw os yw athrawon i gyfrannu'n llawn at y diwygiadau ehangach sy'n digwydd yn y system addysg yng Nghymru, byddai'n ddoeth iddynt adfyfyrio'n feirniadol ar eu profiadau blaenorol o'r tair thema dan sylw. Daw'r papur hwn i'r casgliad y gallai methiant i wneud hynny olygu na fydd gan ddarparwyr y wybodaeth angenrheidiol, na fyddant yn barod, ac y byddant bob amser yn ymateb i newid yn hytrach na chymryd rôl ragweithiol a phendant wrth ddylanwadu ar ddyfodol addysg yng Nghymru.

Keywords:

How to Cite: Egan, D. & Grigg, R. (2020) “Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?”, Wales Journal of Education. 22(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.2